Cyflwyniad
Mae Hydrocephalus yn dod o’r geiriau Groeg ‘hydro,’ sy’n golygu dŵr, a ‘cephalie’, sy’n golygu ymennydd. Cynhyrchir hylif dyfrllyd, a elwir yn hylif yr ymennydd neu HYY, yn gyson tu mewn i bob un o bedwar gwagle neu fentrigl yr ymennydd: cynhyrchir rhwng 400 a 600mililitr bob dydd. Fel arfer mae hylif yr ymennydd yn llifo drwy lwybrau cul o un fentrigl i’r llall, ac yna allan dros ochr allanol yr ymennydd ac i lawr fadruddyn y cefn. Amsugnir hylif yr ymennydd i lif y gwaed, ac fel rheol mae’r swm a’r pwysedd yn aros o fewn ystod eithaf cyfyngedig.
Os rhwystrir hylif yr ymennydd rhag gallu draenio ar unrhyw adeg, bydd yr hylif yn cronni yn y fentriglau sydd yn yr ymennydd, gan achosi iddynt chwyddo ac i’r meinwe sy’n eu hamgylchynu gywasgu. Bydd pennau babanod a phlant bach yn ehangu. Yn achos plant hŷn ac oedolion, nid yw maint y pen yn gallu cynyddu gan fod yr esgyrn sy’n ffurfio’r penglog wedi cydasio’n llwyr.
Allwedd (Key)
Serebrwm: Prif ran yr ymennydd mewn dau hanner, un ar bob ochr (yr hemisffer chwith a dde).
Serebelwm: Rhan llai o’r ymennydd yng nghefn y pen sy’n rheoli chydsymudiadau cyhyrol.
Fentriglau: Gwagleoedd cysylltiedig tu mewn i’r ymennydd ble cynhyrchir hylif yr ymennydd. Mae yna ddau fentrigl ochrol (un bob ochr), trydydd fentrigl a phedwerydd fentrigl. Mae hylif yr ymennydd yn llifo oddi yma dros ochr allanol yr ymennydd cyn iddo gael ei amsugno’n ôl i lif y gwaed.
Coroid plecsws: Yr organ sy’n cynhyrchu hylif yr ymennydd.
Prif sinws saethol: Y brif wythïen sy’n rhedeg dros ganol corun yr ymennydd ac sy’n casglu hylif yr ymennydd gan ei ddraenio’n ôl i brif lif y gwaed.
Chwarren bitẅidol: Chwarren a leolir yng ngheudod yr ymennydd ond sydd union tu ôl i’r wyneb. Mae ganddi’r rôl bwysig o gelu llawer o’r hormonau sy’n rheoleiddio gweithgarwch a datblygiad y corff. Enghraifft yw’r hormon twf, ac mae eraill yn gysylltiedig â datblygiadau rhywiol.
Coesyn yr Ymennydd: rhan bwysig iawn sy’n cysylltu madruddyn y cefn i’r ymennydd. Mae’n rheoli’r anadl a gweithrediadau allweddol eraill.
Madruddyn y cefn: Casgliad cymhleth o nerfau sy’n trosglwyddo ysgogiadau i bob rhan o’r corff, gan symbylu symudiadau cyhyrol, teimladol ac atgyrchol.
Beth sy’n achosi Hydrocephalus?
Datblygir y cyflwr pan nad yw hylif yr ymennydd yn draenio i lif y gwaed. Mae yna nifer o resymau pam all hyn ddigwydd. Gall hydrocephalus fod yn gynhenid neu’n gaffaeledig.
Hydrocephalus Cynhenid
Golyga hyn fod hydrocephalus yn bresennol adeg y geni. Mae’n bwysig cofio nad yw’r term hwn yn awgrymu ei fod yn etifeddol. Yn aml ni ellir dweud beth yw’r union reswm dros hydrocephalus cynhenid ond gall rhesymau hysbys gynnwys:
Camlas Stenosis
Mae un o’r llwybrau (camlas) sy’n cysylltu’r fentriglau i’r ymennydd yn gul (stenosis) sy’n rhwystro llif hylif yr ymennydd. Er ei fod wastad yn gynhenid, efallai na ddatblygir y symptomau tan hwyrach ymlaen.
Spina Bifida
Mae’r rhan fwyaf o fabanod a aned â spina bifida hefyd yn meddu ar hydrocephalus. Yn ychwanegol i’r nam i fadruddyn y cefn, mae yna abnormalaethau yn strwythur rhannau penodol o’r ymennydd sy’n datblygu cyn y geni. Mae hyn yn atal hylif yr ymennydd rhag draenio’n iawn. O ganlyniad i hyn, gall y cynnydd i’r pwysedd hefyd gywasgu rhannau abnormal o’r ymennydd hyd yn oed ymhellach. Am ragor o wybodaeth am spina bifida, gweler Taflen Wybodaeth ASBAH: Beth yw Spina Bifida?
Codenni o fewn yr ymennydd
Mae yna grŵp neilltuol o anhwylderau sy’n achosi codenni sy’n llawn o hylif ffurfio yn system hylif yr ymennydd (er enghraifft codenni ‘Dandy Walker’). Yn yr achosion hyn, datblygir hydrocephalus yn aml oherwydd pwysau ar y meinweoedd amgylchynol oherwydd y goden estynadwy.
Geneteg
Mewn amgylchiadau prin iawn, rhesymau etifeddol sydd yna dros hydrocephalus, a all effeithio cenedlaethau i ddod, megis hydrocephalus x-cysylltiol.
Heintiau Mamol
Mae’r rhain yn cynnwys streptococws grŵp B a all achosi meningitis newydd-anedig, a thocsoplasmosis mewn merched beichiog. Mae’r ddau yn brin ond gallent achosi hydrocephalus.
Hydrocephalus Caffaeledig
Mae’n datblygu ar ôl y geni ac mae’r achosion yn cynnwys:
Gwaedlif yr Ymennydd
Gall mathau eraill o waedlif yr ymennydd, gan gynnwys y rhai hynny sy’n digwydd i oedolion (“stroc”), arwain at y math yma o hydrocephalus ôl-waedlifol.
Tiwmorau
Mae tiwmorau ar yr ymennydd yn achosi’r meinweoedd amgylchynnol i gywasgu a chwyddo, ac o ganlyniad nid yw hylif yr ymennydd yn draenio’n iawn. Wrth drin tiwmorau ar yr ymennydd, mae rhaid yn aml reoli hydrocephalus, a all efallai fod dros dro yn unig.
(Gall gwaedlifoedd yr ymennydd a thiwmorau hefyd fod yn etifeddol).
Llid yr Ymennydd
Haint ar y pilennau sy’n gorchuddio’r ymennydd ydyw. Mae’r llid a’r baw o’r haint hwn yn blocio’r llwybrau draenio gan achosi hydrocephalus.
Gall meningitis ddigwydd unrhyw adeg, ond mae’n fwy cyffredin mewn plant. Mae’r nifer o achosion o un math, llif yr ymennydd haemoffilws, wedi lleihau’n arw gyda’r pigiad HIB
Babanod Cynamserol
Mae yna berygl i fabanod a enir yn fuan ddatblygu hydrocephalus. Mae ymennydd babi a gaiff ei eni’n fuan yn lawer fwy agored i niwed nag un sy’n mynd i’w gyfnod llawn gan ei fod yn dal i ddatblygu. Mae’r rhan sy’n gorwedd yn union o dan leinin y fentriglau yn yr ymennydd yn eithriadol o bwysig – oherwydd gweithgarwch y rhan yma mae ganddo ddigon o gyflenwad gwaed Mae’r pibellau gwaed yn eithriadol o fregus a gallent rwygo’n hawdd pe bai gormod o newid ym mhwysedd gwaed y babi, neu phe bai’n eithriadol o sâl oherwydd rhesymau eraill.
Pe bai’r cymhlethdodau hyn yn codi, yna byddai perygl i’r babi ddatblygu gwaedlif o ganlyniad i’r llestri bregus rwygo. Gall hyn arwain at dolchen waed ddatblygu, sydd mewn rhai achosion, yn ddigon mawr i dorri drwy wal y fentrigl. Pe bai’r dolchen yn rhwystro llif hylif yr ymennydd, byddai’r babi’n datblygu hydrocephalus. Gall y rhwystr fod dros dro neu’n barhaol. Hyd yn oed pe na bai tolchen waed yn datblygu, gall y celloedd gwaed o’r gwaedlif achosi rhwystr.
Hydrocephalus Pwysedd Normal
I’w weld mewn oedolion hŷn ac mae’n meddu nodweddion dementia, symudoledd gostyngol ac anymataliaeth dŵr.
Sut mae trin Hydrocephalus?
Nid yw rhai mathau o hydrocephalus angen triniaeth benodol. Mae mathau eraill yn bodoli dros dro yn unig ac nid oes rhaid eu trin am gyfnod hir. Fodd bynnag, mae’r mwyafrif o fathau angen triniaeth, sydd fel arfer yn driniaeth lawfeddygol. Mae cyffuriau wedi cael eu defnyddio ers nifer o flynyddoedd ond gall fod sgil-effeithiau amhleserus yn gysylltiedig â’r rhain ac nid ydynt yn aml yn llwyddiannus.
Y driniaeth arferol yw gosod siynt. Mae’n bwysig nodi nad yw hyn yn ‘cael gwared’ o hydrocephalus ac mae’r niwed i feinwe’r ymennydd yn parhau i fodoli. Mae’r siynt yn rheoli’r pwysedd drwy ddraenio’r hylif gormodol o’r ymennydd, sydd felly’n atal y cyflwr rhag gwaethygu. Mae’r symptomau a achosir gan bwysedd uchel fel arfer yn gwella ond bydd y problemau sy’n gysylltiedig â’r niwed i’r ymennydd yn parhau i fodoli.
Beth yw Siynt?
Yn syml, dyfais yw siynt sy’n ailgyfeirio hylif yr ymennydd sydd wedi cronni o amgylch y llwybrau rhwystredig yn ôl i lif y gwaed. Mae’n cynnwys system o diwbiau a falf i reoli cyflymdra’r draeniad ac i atal ôl-lifiad. Caiff ei osod yn llawfeddygol fel bod y pen uchaf mewn fentrigl yn yr ymennydd a’r pen isaf yn mynd un ai i mewn i’r galon ‘ventriculo-atrial’ neu i’r abdomen ‘ventriculo-peritoneal’. Gall y siynt fod yn fath rhaglenadwy (gellir ei addasu).
Mae’r ddyfais yn hollol gaeëdig fel ei fod i gyd tu mewn i’r corff. Mae’r hylif sy’n cael ei ddraenio i’r abdomen yn pasio oddi yna i lif y gwaed. Gellir hefyd defnyddio mannau draenio eraill megis leinin allanol yr ysgyfaint (siynt ventriculo-pleural).
Anawsterau Posibl
Gan amlaf, bwriedir i siyntiau aros yn eu lle am byth, er efallai bydd angen, o bryd i’w gilydd, wneud rhai newidiadau neu arolygiadau. Efallai daw’r tiwb neu’r cathetr i fod yn rhy fyr fel bydd yr unigolyn yn tyfu ac efallai bydd angen llawdriniaeth i’w ymestyn. Weithiau, fel gydag unrhyw fewnblaniad, gall bydd yna ddiffygion mecanyddol. Mae hefyd yn bwysig sylweddoli y gall problemau godi gyda’r siynt yn blocio neu’n cael ei heintio.
Pa symptomau y dylid edrych allan amdanynt?
Mae’r rhain yn amrywio’n fawr o un unigolyn i’r llall. Fel arfer mae profiad personol blaenorol o broblem gyda siynt yn arweiniad dibynadwy wrth wybod beth i chwilio amdano.
Gall arwyddion tebygol o rwystr siynt difrifol gynnwys:
chwydu, cur pen, pendro, ffotoffobia (sensitifrwydd i olau) ac aflonyddwch gweledol arall, pendwmpian a ffitiau.
Gall arwyddion tebygol o rwystr siynt cronig gynnwys:
blinder, anhwylder cyffredinol, problemau gweledol, newidiadau mewn ymddygiad, dirywiad mewn perfformiad academaidd, bod ‘ddim yn iawn’ o safbwynt y gofalwr.
Os credir fod siynt wedi blocio dylid gofyn am gyngor gan eich uned niwrolawdriniaeth o fewn pedair awr i’r symptomau difrifol ddechrau
Gyda haint i’r siynt, mae’r symptomau yn amrywio yn ôl llwybr y draeniad.
Gyda siyntiau ‘ventriculo-peritoneal’, bydd y symptomau’n debyg i symptomau rhwystr. Mae hyn yn digwydd oherwydd bod y siynt yn cael ei heintio ac yna’n aml iawn caiff y cathetr isaf ei gau i ffwrdd gan feinwe. Gall fod gan yr unigolyn hefyd dwymyn a phoen neu anesmwythder yn yr abdomen dros leoliad y siynt.
Gyda haint mewn siyntiau ‘ventriculo – atrial’, ceir twymyn yn y mwyafrif o achosion er ei fod yn aml yn ysbeidiol. Mae anemia’n aml yn bresennol, ac weithiau brech croen ynghyd â phoen yn y cymalau. Yn wahanol i siyntiau ‘ventriculo – peritoneal’, weithiau nid yw heintiau o’r fath yn ymddangos am fisoedd neu flynyddoedd ar ôl y llawdriniaeth pryd cafwyd yr haint.
Gellir cael amrywiaeth o heintiau gyda siynt a dylid cael cyngor meddygol os oes amheuaeth fod haint yn bresennol.
Sut mae trin problemau â siynt?
Fel rheol bydd angen llawdriniaeth ar gyfer rhwystrau siynt sy’n achosi salwch, er mwyn gosod rhan arall neu gywiro rhan o’r siynt sydd ddim yn gweithio. Fel arfer gellir trin heintiau i siynt drwy dynnu’r siynt cyfan allan a chymryd cwrs o antibiotigau cyn gosod system newydd. Mae dulliau modern o therapi antibiotig yn golygu y gellir disgwyl i driniaeth o’r fath lwyddo gyda’r mwyafrif o achosion.
Trydydd Fentriglostomi Endosgopig
Gall trydydd fentriglostomi fod yn driniaeth amgenach, ble gwneir twll bychan yng ngwaelod y fentrigl i ailgyfeirio llif hylif yr ymennydd. Mae’r driniaeth yma, os yn llwyddiannus, yn osgoi’r angen am siynt. Fodd bynnag, ni ellir trin pob math o hydrocephalus yn y ffordd yma, ac nid yw ar gael ymhob uned niwrolawdriniaeth.
Am wybodaeth bellach ar TFE gweler taflen wybodaeth ASBAH ‘Trydydd Fentriglostomi Endosgopig.
Hydrocephalus a ffitiau
Bydd rhai plant ac oedolion sydd â hydrocephalus yn cael ffitiau.
Am wybodaeth ar epilepsi a thriniaeth ewch i wefan ‘Epilepsy Action’. www.epilepsy.org.uk
Beth yw effeithiau hydrocephalus?
Gall fod yna anawsterau dysgu yn gysylltiedig â hydrocephalus megis problemau â chanolbwyntio, rhesymu a chof tymor byr. Gall hydrocephalus hefyd fod yn gysylltiedig ag effeithiau cynnil, gan roi problemau gyda chydsymud, cymhelliant, sgiliau trefnu ac iaith. Gall effeithiau corfforol megis problemau gweledol, neu lencyndod cynnar mewn plant hefyd ddigwydd. Gellir lleihau nifer o’r effeithiau hyn drwy strategaethau dysgu neu gyda thriniaeth ble bo hynny’n addas.
Rhaid pwysleisio fod effeithiau hydrocephalus yn amrywio o un unigolyn i’r llall a dim ond rhai problemau, os rhai o gwbl, fydd gan rai pobl.
Cefnogaeth
Mae ASBAH yn chwarae rôl flaengar mewn darparu cefnogaeth, drwy swyddfeydd cenedlaethol a rhanbarthol a chymdeithasau lleol; mae’n cynnig cefnogaeth a chyngor ymarferol. Gall deuluoedd sydd â phlentyn neu oedolyn ag anabledd weithiau deimlo’n unig iawn a gall ASBAH gynnig cyswllt, sydd yn aml wir ei angen, gyda theuluoedd eraill. Mae gwybodaeth a chyhoeddiadau ar gael ar bob agwedd ar ofal a rheolaeth. Bydd ein staff cenedlaethol a rhanbarthol, ein hymgynghorwyr lleol ac arbenigol yn rhoi cyngor a chefnogaeth bersonol pa bryd bynnag bydd hynny’n bosibl.
Mae ein gwasanaethau ar gael i unigolion sydd ag anableddau, rhieni, gweithwyr iechyd proffesiynol, ysgolion, awdurdodau lleol a chyrff eraill sydd â diddordeb. Gallwch gael rhagor o fanylion am ein gwasanaethau drwy gysylltu â’n Gwasanaeth Cymorth dros y Ffôn 0845 450 7755 rhwng 10.00yb a 4.00yh Dydd Llun i Ddydd Gwener. Fel arall gallwch e-bostio eich ymholiad i helpline@asbah.org
CARDIAU RHYBUDD SIYNT
Mae gan ASBAH gyfres o Gardiau Rhybudd Siynt ar gyfer oedolion a phlant. Dylai’r rhain gael eu cario drwy’r adeg gan bobl sydd â hydrocephalus sy’n cael ei drin gyda siynt (bydd hyn yn cynnwys rhai pobl sydd â spina bifida).
Mae’r cardiau ar gael gan Linell Gymorth a Gwybodaeth ASBAH, Ffôn 0845 450 7755.
Mae’r cerdyn yn pwysleisio y dylai’r siynt gael ei asesu mewn uned niwrolawdriniaeth arbenigol pe bai daliwr y cerdyn yn dangos arwyddion sy’n debyg i’r rhai hynny sy’n digwydd pan fo’r siynt wedi blocio neu wedi’i heintio er mwyn dileu methiant i’r siynt fel achos.
Gall pobl sy’n gwneud cais am Gerdyn Rhybudd Siynt hefyd ofyn i daflen wybodaeth am hydrocephalus, a ysgrifennwyd yn arbennig ar gyfer meddygon, gael ei anfon i’w Meddyg Teulu.
Gall athrawon a chyflogwyr ofyn am “Diffygion Siynt: arweiniad i symptomau a gweithrediadau awgrymedig i ysgolion/cyflogwyr”.
Cylchgrawn Link
Y cylchgrawn angenrheidiol i bobl sydd â hydrocephalus a spina bifida.
Cyhoeddir Link yn chwarterol (Gaeaf, Gwanwyn, Haf a Hydref) ac mae’n llawn o’r newyddion, digwyddiadau a’r materion diweddaraf i unigolion, gofalwyr a phobl sy’n byw â hydrocephalus a spina bifida. I danysgrifio cysylltwch â Llinell Gymorth ASBAH 0845 450 7755, e-bostiwch: helpline@asbah.org neu cliciwch yma
‘Hydrocephalus Action’: Mae Codman ac ASBAH yn gweithio mewn partneriaeth i hyrwyddo ‘Hydrocephalus Action’, ymgyrch sy’n ceisio cynyddu’r ymwybyddiaeth o hydrocephalus
Helpwch ni
Mae ASBAH yn dibynnu ar haelioni a chefnogaeth pobl fel ein bod ni’n gallu helpu’n cleientiaid sy’n dibynnu arnom am gymorth a gwybodaeth - pobl sydd â hydrocephalus, spina bifida, eu teuluoedd a’u gofalwyr. I gefnogi ASBAH cliciwch yma neu ffoniwch 01733 421327.
Cynhyrchwyd y wybodaeth yma gan ymgynghorwyr meddygol ASBAH, ac fe’i gymeradwywyd gan Bwyllgor Ymgynghorol Meddygol ASBAH sy’n cynnwys uwch-weithwyr meddygol proffesiynol.
Cymdeithas Spina Bifida a Hydrocephalus
42 Park Road, Peterborough, PE1 2UQ
Rhif elusen cofrestredig: 249338
Dyddiad adolygu’r daflen: Mehefin 2009