Skip navigation |

Beth yw Spina Bifida?

Ystyr llythrennol spina bifida yw ‘asgwrn cefn rhanedig’
Mae nam yn natblygiad madruddyn y cefn a’r esgyrn sy’n ei amgylchynu (fertebrâu) yn gadael bwlch neu raniad yn yr asgwrn cefn. Nid yw madruddyn y cefn wedi ffurfio’n iawn, a gall hefyd fod wedi’i niweidio. I helpu deall beth ydyw, mae’n ddefnyddiol egluro cyfansoddiad y sustem nerfol.


Y Sustem Nerfol Ganolog
Mae’r sustem nerfol ganolog yn cynnwys yr ymennydd a madruddyn y cefn. Mae pob gweithgaredd yn cael ei reoli gan yr ymennydd, sy’n derbyn gwybodaeth drwy gyffwrdd, gweld, teimlo, blasu a chlywed – gan ymateb i’r wybodaeth yma drwy wneud i wahanol rannau o’r corff symud yn y modd priodol. Mae negeseuon o’r ymennydd yn cael eu cludo i wahanol rannau o’r corff ar hyd fadruddyn y cefn sy’n rhedeg i lawr canol yr asgwrn cefn. Mae’r system gyfathrebu yma’n hynod o bwysig i’r corff ac mae angen ei amddiffyn.


Yr Asgwrn Cefn
Mae’r asgwrn cefn wedi’i ffurfio o 33 asgwrn neu fertebra. Mae gan y fertebrâu ddau brif swyddogaeth. Un yw angori’r cyhyrau er mwyn inni allu symud pan fo’r ymennydd yn rhoi gorchmynion i’r cyhyrau hynny. Y llall yw amddiffyn madruddyn y cefn.


Y Tiwb Nerfol

Mae’r sustem nerfol ganolog a’r asgwrn cefn yn datblygu rhwng y 14eg a’r 23ain diwrnod ar ôl cenhedlu. Datblygir spina bifida pan nad yw’r tiwb nerfol yn llwyddo i gau’n iawn. Nid yw’r fertebrâu ychwaith yn cau mewn cylchoedd perffaith o amgylch y rhan penodol o fadruddyn y cefn sydd wedi’i niweidio. Mae hyn yn gadael bwlch yn y cefn, gan effeithio un neu fwy o fertebrâu. Gall y nam hwn fodoli mewn un neu fwy o’r fertebrâu, ond mae fwyaf cyffredin o gwmpas lefel y gwasg.


Mathau o Spina Bifida
Y tri prif fath o spina bifida sydd wastad yn bresennol adeg y geni yw:
Spina Bifida Systiga (tebyg i goden)
Yr arwyddion gweladwy yw coden sy’n eithaf tebyg i chwysigen fawr ar y cefn, sydd wedi’i orchuddio â haen denau o groen.
Ceir dau fath:
1) Myelomeningocel
(meningomyelocel
Myelomeningocel yw’r math mwyaf difrifol a chyffredin o’r ddau fath o spina bifida systiga. Yma mae’r goden yn cynnwys nid yn unig meinwe a hylif yr ymennydd ond hefyd nerfau a rhan o fadruddyn y cefn. Mae madruddyn y cefn wedi’i niweidio neu nid yw wedi datblygu’n iawn. O ganlyniad i hyn, mae yna o hyd ychydig o barlys a diffyg teimlad o dan y rhan sydd wedi’i niweidio. Mae difrifoldeb yr anabledd yn dibynnu’n fawr iawn ar leoliad y spina bifida, a pha mor ddrwg yw’r niwed i’r meinwe nerfol. Mae gan lawer o bobl sydd â myelomeningocel broblemau â’r bledren a’r perfedd gan fod y nerfau yn dod o waelod fadruddyn y cefn, ac felly wastad yn is na’r nam. Mae hefyd yn anghenrheidiol cael llwybrau nerfol cyflawn i’r ymennydd er mwyn cael rheolaeth a theimlad llawn.


2) Meningocel
Gyda’r math hwn, mae’r goden yn cynnwys pilennau’r ymennydd (meinweoedd sy’n gorchuddio’r ymennydd a madruddyn y cefn) a hylif yr ymennydd sy’n amgylchynu’r system nerfol ganolog. Gall ddatblygiad madruddyn y cefn fod wedi’i effeithio, ond mae’r niwed fel arfer yn llai difrifol na myelomeningocel. Meningocel yw'r math mwyaf anghyffredin o spina bifida.


Spina Bifida Occulta (math cuddiedig)
Dyma fath hynaws o spina bifida ac mae’n gyffredin iawn. Mae’r amcangyfrifon yn amrywio, ond gall fod gan rhwng 5% a 10% o bobl spina bifida occulta. Rhaid pwysleisio nad yw meddu ar spina bifida occulta yn cael effaith o gwbl ar y rhan fwyaf o’r rhai hynny sydd ag ef. Yn aml dim ond ar ôl cael pelydr-x ar y cefn ar gyfer problem amherthnasol y daw pobl yn ymwybodol fod ganddynt spina bifida occulta.
Fodd bynnag, ar gyfer ychydig (tua 1 ymhob 1,000) gall fod yna broblemau cysylltiedig. Gweler taflen wybodaeth ASBAH ar ‘Spina Bifida Occulta’.


Enceffalocel
Coden ydyw sy’n ffurfio pan nad yw esgyrn y penglog yn datblygu. Gall gynnwys hylif yr ymennydd yn unig neu gall ran o’r ymennydd hefyd fod yn bresennol yn y goden, gan arwain at niwed i’r ymennydd.


Anenceffali
Dyma ble nad yw’r ymennydd yn datblygu’n iawn neu ble mae’n absennol, ac mae’r babi unai’n cael ei eni’n farw neu’n marw’n fuan ar ôl iddo gael ei eni. Cysylltwch ag ASBAH am ragor o wybodaeth.


Hydrocephalus
Mae’r rhan fwyaf o fabanod a aned â myelomeningocel hefyd yn meddu ar hydrocephalus (o’r geiriau Groeg ‘hydro,’ sy’n golygu dŵr, a ‘cephalie’, sy’n golygu ymennydd). Crynhoad o hylif yr ymennydd ydyw sy’n digwydd o ganlyniad i anghydbwysedd yn y broses o gynhyrchu a draenio’r hylif yna. Ceir rhagor o wybodaeth am hydrocephalus yn nhaflen wybodaeth ASBAH ‘Beth yw Hydrocephalus?’


Pam bod Spina Bifida yn digwydd?
Ar hyn o bryd, mae’r rheswm yn ddirgelwch ond mae’r gwaith ymchwil yn parhau. Fodd bynnag, yr ydym yn gwybod y gall gymryd asid ffolig atodol leihau’r risg o spina bifida mewn babanod sydd heb gael eu geni. I deuluoedd sydd heb hanes o spina bifida, mae’r Adran Iechyd yn argymell fod merched yn cymryd dogn dyddiol o 400mcg a all gael ei brynu dros y cownter. I deuluoedd ble mae yna hanes o spina bifida, bydd angen dogn drwy bresgripsiwn (5mg) o asid ffolig. Dylid cymryd asid ffolig yn ddyddiol am o leiaf mis cyn cenhedlu a drwodd i 12fed wythnos y beichiogrwydd. Hyd yn oed gyda maethu cynnyrch sy’n cynnwys blawd ag asid ffolig, mae angen cymryd tabled atodol. Nid ydym yn gwybod eto'r union resymau pam nad yw’r tiwb nerfol yn datblygu’n iawn ond mae’n debygol o fod yn gysylltiedig â ffactorau genetig ac amgylcheddol.

Sut mae trin Spina Bifida?
Yn fuan ar ôl iddo gael ei eni bydd llawfeddyg pediatrig neu niwrolawfeddyg pediatrig yn gweld y babi. Bydd y llawfeddyg wedyn yn penderfynu os dylai’r plentyn gael llawdriniaeth i atgyweirio’r nam yn y cefn: bydd y llawdriniaeth yma’n cymryd lle mewn uned arbenigol fel arfer o fewn 48 awr.
Nid yw rhai llawfeddygon yn cau’r cefn yn llawfeddygol ond yn ei adael i wella heb ymyrraeth.

Cyngor Genetig
Dylai darpar rieni sydd wedi cael babi â nam tiwb nerfol, neu sydd â pherthynas agos gyda nam tiwb nerfol, gael eu hailgyfeirio at gynghorwr genetig am gyngor.


Cefnogaeth
Mae ASBAH yn chwarae rôl flaengar mewn darparu cefnogaeth, drwy swyddfeydd cenedlaethol a rhanbarthol a chymdeithasau lleol; mae’n cynnig cefnogaeth a chyngor ymarferol. Gall deuluoedd sydd â phlentyn neu oedolyn ag anabledd weithiau deimlo’n unig iawn a gall ASBAH gynnig cyswllt, sydd yn aml wir ei angen, gyda theuluoedd eraill. Mae gwybodaeth a chyhoeddiadau ar gael ar bob agwedd ar ofal a rheolaeth. Bydd ein staff cenedlaethol a rhanbarthol, ein hymgynghorwyr lleol ac arbenigol yn rhoi cyngor a chefnogaeth bersonol pa bryd bynnag bydd hynny’n bosibl.
Mae ein gwasanaethau ar gael i unigolion sydd ag anableddau, rhieni, gweithwyr iechyd proffesiynol, ysgolion, awdurdodau lleol a chyrff eraill sydd â diddordeb. Gallwch gael rhagor o fanylion am ein gwasanaethau drwy gysylltu â’n Gwasanaeth Cymorth dros y Ffôn 0845 450 7755 rhwng 10.00yb a 4.00yh Dydd Llun i Ddydd Gwener. Fel arall gallwch e-bostio eich ymholiad i helpline@asbah.org


Link MagazineCylchgrawn Link
Y cylchgrawn angenrheidiol i bobl sydd â hydrocephalus a spina bifida.
Cyhoeddir Link yn chwarterol (Gaeaf, Gwanwyn, Haf a Hydref) ac mae’n llawn o’r newyddion, digwyddiadau a’r materion diweddaraf i unigolion, gofalwyr a phobl sy’n byw â hydrocephalus a spina bifida. I danysgrifio cysylltwch â Llinell Gymorth ASBAH 0845 450 7755 e-bostiwch: helpline@asbah.org neu cliciwch yma.

Helpwch ni
Mae ASBAH yn dibynnu ar haelioni a chefnogaeth pobl fel ein bod ni’n gallu helpu’n cleientiaid sy’n dibynnu arnom am gymorth a gwybodaeth - pobl sydd â hydrocephalus, spina bifida, eu teuluoedd a’u gofalwyr. I gefnogi ASBAH cliciwch yma neu ffoniwch 01733 421327.

Cynhyrchwyd y wybodaeth yma gan ymgynghorwyr meddygol ASBAH, ac fe’i gymeradwywyd gan Bwyllgor Ymgynghorol Meddygol ASBAH sy’n cynnwys uwch-weithwyr meddygol proffesiynol.


Cymdeithas Spina Bifida a Hydrocephalus
42 Park Road, Peterborough, PE1 2UQ
Rhif elusen cofrestredig: 249338
Dyddiad adolygu’r daflen: Mehefin 2009